Arfbais y Ffindir

Arfbais y Ffindir

Llew dywal euraidd ar darian goch yw arfbais y Ffindir. Mae gan y llew goron ar ei ben a garbras dros ei goes flaen dde sy'n gafael mewn cleddyf, a saif ei bawennau ôl ar grymgledd. Mae maes y darian yn frith o rosynnau arian.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search